Rhaglen Grantiau Cymunedol

Ydy gweithgareddau adeiladu neu weithredu Trawsyrru Trydan y Grid Cenedlaethol yn effeithio ar eich cymuned ar hyn o bryd?

Busnes Trawsyrru Trydan y Grid Cenedlaethol (NGET) sy’n rhedeg y Rhaglen Grantiau Cymunedol. Rydym yn berchen ar y rhwydwaith trawsyrru trydan foltedd uchel yng Nghymru a Lloegr, a’i gynnal. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at sefydliadau ac elusennau cymunedol mewn ardaloedd lle mae ein gwaith, drwy ein gweithgareddau adeiladu a gweithredu, yn effeithio ar bobl leol.

Mae cymunedau sy’n teimlo effaith gwaith cynnal a chadw ar seilwaith sy’n bodoli eisoes (e.e. adnewyddu llinellau uwchben neu is-orsafoedd sy’n arwain at gau ffyrdd ac effeithiau eraill) yn gallu gwneud cais am grantiau o hyd at £10,000.

Mae cymunedau sy’n teimlo effaith gwaith adeiladu ar gyfer prosiectau seilwaith newydd (e.e. adeiladu twneli tanddaearol newydd neu is-orsaf newydd sy’n arwain at gynnydd sylweddol mewn traffig nwyddau trwm, sŵn ac effeithiau eraill) yn gallu gwneud cais am grantiau o hyd at £20,000.

Sylwch nad yw’r rhaglen hon yn derbyn ceisiadau sy’n gysylltiedig â’r canlynol:

  • Cymunedau lle mae gan NGET swyddfeydd neu safleoedd sefydlog fel is-orsafoedd sy’n bodoli eisoes, oni bai fod gweithgareddau adeiladu neu gynnal a chadw yn effeithio ar y gymuned leol.
  • Gwaith sy’n cael ei wneud gan wahanol rannau o’r Grid Cenedlaethol, gan gynnwys Mentrau’r Grid Cenedlaethol a Dosbarthu Pŵer y Grid Cenedlaethol (Western Power Distrubution gynt). Gallwch ddarganfod mwy am Gronfa Cymunedol NGED yma.
  • Costau ynni uwch sy’n gysylltiedig â’r argyfwng costau byw mewn ardaloedd nad ydi gwaith Trawsyrru Trydan y Grid Cenedlaethol yn effeithio arnynt.
  • Gwaith sy’n cael ei wneud gan weithredwyr y rhwydwaith dosbarthu.

Nodir y meini prawf cymhwysedd llawn isod. Darllenwch yn drylwyr a gwnewch yn siŵr bod eich prosiect yn gymwys i gael ei ystyried am gymorth grant cyn i chi gyflwyno'ch cais.

Mae gennym rai Cwestiynau Cyffredin a fydd yn eich helpu i ateb unrhyw ymholiadau eraill sydd gennych.

Pwy sy’n gallu gwneud cais

Dim ond unwaith ar y tro y gall sefydliadau gyflwyno cais a dim ond unwaith yn ystod blwyddyn gyllidol (ar agor rhwng Ebrill a Mawrth), beth bynnag fydd canlyniad cais blaenorol.

I wneud cais am grant cymunedol, rhaid i’ch prosiect fod mewn ardal sy’n teimlo effaith ein gweithrediadau neu ein gweithgareddau – ond gall eich sefydliad fod wedi’i leoli rywle arall.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan elusennau cofrestredig, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw.

Hefyd rhaid i sefydliadau feddu ar y canlynol:

  • cyfrif banc yn enw’r sefydliad gydag o leiaf dau lofnodwr heb berthynas rhyngddynt
  • cyfansoddiad (os nad yw’n elusen gofrestredig)
  • pwyllgor rheoli sy’n cynnwys o leiaf dri pherson heb berthynas rhyngddynt
  • cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf neu ragamcaniad ariannol os yw’n sefydliad newydd (dim ond sefydliadau hydal byddwn yn eu hariannu).
     

Gwneud mwy nag un cais

Dim ond unwaith ar y tro y gall sefydliadau gyflwyno cais a dim ond unwaith yn ystod blwyddyn gyllidol (ar agor rhwng Ebrill a Mawrth), beth bynnag fydd canlyniad cais blaenorol.

Does dim modd i sefydliadau gael mwy nag un grant yn ystod pob blwyddyn ariannol. Byddwn yn ystyried dyfarnu eto mewn blynyddoedd eraill ar yr amod:

  • ein bod wedi cael ffurflen fonitro diwedd grant ar gyfer y grant blaenorol a
  • bod yr ymgeisydd yn gwneud cais am gyllid ar gyfer prosiect ‘newydd’ a
  • bod y sefydliad yn dal yn bodloni’r meini prawf, gan gynnwys y gofyniad bod ein gweithrediadau’n effeithio ar y gymuned.

Ni fyddwn yn darparu cymorth parhaus i brosiect sydd wedi cael cyllid o’r blaen nac yn ariannu costau rhedeg craidd.

Rhaid i grwpiau llwyddiannus gwblhau eu prosiect yn llawn cyn gwneud cais eto, hyd yn oed os yw'r cais ar gyfer prosiect gwahanol. Er eglurder, dim ond pan fydd yr holl arian wedi'i wario, a bod yr holl adroddiadau prosiect gofynnol wedi'u cwblhau y caiff y prosiect eu nodi yn un terfynol. Cysylltwch â [email protected] os nad ydych wedi derbyn y ffurflen adrodd prosiect.

Beth rydyn ni’n ei ariannu

Rydyn ni’n cefnogi prosiectau yn y meysydd canlynol:

Buddion cymdeithasol

  • Mentrau sy’n cefnogi aelodau anodd eu cyrraedd o’r gymuned, gan wella amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Mentrau sy’n cefnogi diogelwch cymunedol – fel diogelwch trydanol a diogelu aelodau o’r gymuned sy’n wynebu risgiau, gan gynnwys pobl hŷn a phobl ag anghenion arbennig.
  • Mentrau sy’n gwella cyrhaeddiad addysgol drwy fagu hyder a hunan-barch plant a phobl ifanc.
  • Prosiectau addysgol, yn enwedig y rhai sy’n gwella sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) pobl ifanc.
  • Mentrau sy’n hybu neu’n cefnogi iechyd a lles yn y gymuned leol, er enghraifft drwy wella effeithlonrwydd ynni.
     

Buddion economaidd

  • Mentrau sy’n cefnogi cyflogaeth, naill ai drwy leoliad gwaith neu gynlluniau ailhyfforddi sy’n helpu pobl o gymunedau incwm is i gael gwaith eto.
  • Mentrau sy’n cynyddu capasiti grwpiau cymunedol, elusennol neu wirfoddol i’w helpu i wella eu gwasanaethau, a hynny drwy gyrraedd mwy o ddefnyddwyr neu ymestyn oriau’r gwasanaeth.
     

Buddion amgylcheddol

  • Mentrau fel prosiectau cadwraeth sy’n cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar yr amgylchedd, neu brosiectau codi ymwybyddiaeth sy’n gwella ymddygiad neu ddealltwriaeth amgylcheddol, fel ailgylchu neu reoli adnoddau dŵr.
  • Gwella effeithlonrwydd ynni cyfleusterau cymunedol.
  • Mentrau sy’n helpu pobl i reoli eu defnydd o ynni ac i fanteisio ar dariffau fforddiadwy.
Nid ydym yn ariannu’r canlynol

Ni fydd grantiau ar gael ar gyfer:

  • Prynu tir ac adeiladau
  • Sefydliadau masnachol
  • Prosiectau sydd â chyfanswm cost o fwy na £40,000 - nod y gronfa grant hon yw cefnogi sefydliadau sy'n gwneud cais am brosiectau bach i ganolig eu maint, yn barod i ddechrau o fewn mis i dderbyn cyllid ac i orffen o fewn 12 mis i ddyddiad dyfarnu'r prosiect
  • Costau dichonoldeb a datblygu prosiect annibynnol gan gynnwys costau cynllunio
  • Prosiectau sy'n cynnwys trosglwyddo arian grant ymlaen fel dyfarniadau i unigolion neu sefydliadau eraill (ail-grant)
  • Hyrwyddo crefydd – byddwn yn ariannu sefydliadau crefyddol i gynnal gweithgareddau lleyg
  • Pleidiau neu achosion gwleidyddol
  • Ymchwil feddygol, offer meddygol neu driniaeth feddygol
  • Costau rhedeg craidd
  • Prosiectau sydd o fudd i unigolion yn unig
  • Pobl sy'n cymryd rhan mewn teithiau dydd a theithiau preswyl (gan gynnwys teithiau cerdded neu dripiau)
  • Sefydliadau statudol fel llywodraethau lleol, ysgolion, y GIG neu gynghorau lleol, gan gynnwys cynghorau plwyf, hyd yn oed os oes ganddynt statws elusennol – gallwn ystyried ceisiadau gan sefydliadau fel cymdeithasau rhieni ac athrawon neu ‘Sefydliadau Cyfaill’, ond rhaid i brosiectau fod er budd y gymuned leol yn ogystal â phoblogaeth yr ysgol
  • Cyllid ôl-weithredol, h.y. dim ond ar gyfer gwaith a fydd yn dechrau / gwariant y gellir ei wneud ar ôl i'n penderfyniad ariannu gael ei wneud a chyflwyno contract grant ffurfiol
  • Gwella tir neu adeiladu nad oes gan yr ymgeisydd ddaliadaeth drostynt
  • Gwaith a fyddai'n cael ei ystyried yn gyfrifoldeb statudol, fel gwasanaethau cludiant wedi'u trefnu, gwaith i briffyrdd cyhoeddus a meysydd parcio cyhoeddus
  • Ceisiadau gan sefydliadau y tu allan i Gymru a Lloegr
  • Digwyddiadau cymunedol untro fel ffeiriau a ffeiriau haf, neu brosiectau tymhorol fel goleuadau Nadolig neu goelcerthi cymunedol.
     

 

Grantiau sydd wedi’u dyfarnu hyd yma

Grantiau diweddaraf

Rhagfyr 2024

Tadcaster and Rural Community Interest Company Ltd£20,000.00
Monk Fryston U14s£3,068.00
Snowdonia  Donkeys£15,860.00
Clapham Film Unit£10,000.00
Norfolk Scouts ICE Team£18,000.00
Fairburn Recreation Centre£9,000.00
The Shed on the Isle£10,000.00

 

Mynd i’n harchif dyfarniadau

Y Broses Gwneud Cais

Mae Rhaglen Grantiau Cymunedol y Grid Cenedlaethol yn ariannu prosiectau mewn cymunedau y mae ein gweithrediadau’n effeithio arnynt.

Darllenwch Pwy sy’n gallu gwneud cais a Beth rydyn ni ac nad ydyn ni’n ei ariannu cyn gwneud cais am grant. Mae’n well gennym gael ceisiadau ar-lein ond os nad yw hyn yn bosib, e-bostiwch [email protected] gyda’ch rhif cyswllt a byddwn yn gallu eich helpu.

Byddwn yn cydnabod eich cais ac efallai y bydd swyddog grantiau’n cysylltu â chi i gael rhagor o fanylion.

Rydym yn derbyn ceisiadau bob chwarter (mae’r amserlen isod). Rydym yn gwneud yn siŵr bod y ceisiadau’n bodloni’r gofynion sylfaenol cyn eu pasio i banel ariannu’r Grid Cenedlaethol, sy’n eu hadolygu, eu hasesu a’u sgorio yn erbyn meini prawf gwerthuso. Bydd y ceisiadau sy’n sgorio uchaf yn derbyn cyllid. Byddwch yn cael gwybod beth yw’r canlyniad unwaith bydd penderfyniad wedi ei wneud. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi ac yn gofyn am eich manylion banc. Fel rheol mae grantiau’n cael eu talu’n uniongyrchol i gyfrif banc eich sefydliad. Byddwch yn cael gwybod os nad ydych chi’n llwyddiannus hefyd.

Ar ôl 12 mis, neu pan fydd eich prosiect wedi’i gyflawni, byddwn yn gofyn i chi adrodd ar eich cynnydd, gan gadarnhau sut mae’r grant wedi cael ei ddefnyddio a’r effaith a gafwyd.

Dyma’r amserlen ar gyfer derbyn ceisiadau.

Amserlen flynyddol

Ch1 Ebrill – Cyfnod gwneud cais yn dechrau; Mai – Adolygu ceisiadau yn erbyn y meini prawf; Mehefin – Panel yn cyfarfod / penderfynu

Ch2 Gorffennaf – Cyfnod gwneud cais yn dechrau; Awst – Adolygu ceisiadau yn erbyn y meini prawf; Medi – Panel yn cyfarfod / penderfynu

Ch3 Hydref – Cyfnod gwneud cais yn dechrau; Tachwedd – Adolygu ceisiadau yn erbyn y meini prawf; Rhagfyr – Panel yn cyfarfod / penderfynu

Ch4 Ionawr – Cyfnod gwneud cais yn dechrau; Chwefror – Adolygu ceisiadau yn erbyn y meini prawf; Mawrth – Panel yn cyfarfod / penderfynu

Ffurflen gais ar gyfer grant cymunedol

Mae ceisiadau ar gyfer y panel Mawrth wedi cau. Gallwch dal yn gyflwyno cais trwy'r botwm isod, ond nodwch na fyddwch yn derbyn penderfyniad terfynol tan panel Mehefin 2025.

  • Ydi eich prosiect mewn ardal y mae ein gweithrediadau neu ein gweithgareddau yn effeithio arni?
  • Ydych chi’n elusen gofrestredig / sefydliad cymunedol cydnabyddedig neu fenter gymdeithasol?
  • Allwch chi ddangos y bydd y grant hwn yn cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned ac yn cyflawni ein blaenoriaethau ariannu cymdeithasol, economaidd a / neu amgylcheddol? Darllenwch yr adran Beth rydyn ni’n ei ariannu i wneud yn siŵr.
  • Ydych chi wedi gwneud yn siŵr nad yw eich sefydliad na’ch prosiect wedi’u heithrio? Darllenwch yr adran Pwy sy’n gallu gwneud cais i gael rhagor o wybodaeth.
  • Ydych chi’n gwneud cais ar gyfer prosiect penodol, nid costau rhedeg craidd?
  • Os ydych chi wedi cael grant gennym o’r blaen, a oedd hyn dros 12 mis yn ôl ac a ydych chi wedi darparu ffurflen fonitro derfynol?

Gwnewch gais i NGET yma

 

Man discussing new ideas with the team

Frequently asked questions

Below you'll find answers to the questions we get asked the most about applying for our grant programme.

MaleAndFemaleWorkingAtDesk_640x360.jpg

Contact us

If you need help or would like to discuss your application, please get in touch.