Electricity transmission pylons and overhead lines over the Dwyryd Estuary in Wales at sunset
Y newyddion diweddaraf am osod mesurau rheoli traffig ym Minffordd - Chwefror 2023

Yn ystod y chwe mis diwethaf rydym wedi cysylltu â thrigolion lleol sy’n byw ar Lôn y Chwarel ym Minffordd ac o’i chwmpas ynghylch ein cynlluniau rheoli traffig arfaethedig ar gyfer y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri y National Grid. 

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i ymateb i’n hymgynghoriad a rhoi eu sylwadau ar y cynigion, sydd wedi ein helpu i ddatblygu a mireinio’r manylion ar gyfer rheoli’r gwaith adeiladu wrth i ni drawsnewid y dirwedd. 

Mae cynlluniau wedi cael eu cwblhau’n derfynol a bydd y mesurau’n cael eu gosod ar 16 Chwefror 2023 gan ein contractwr penodedig, sef HOCHTIEF (UK) Construction Ltd, pan fyddwn yn dechrau sefydlu un o brif gompowndiau adeiladu’r prosiect ar dir wrth ymyl ffordd gefn Minffordd.

Bydd y mesurau’n cynnwys cau’r ffordd gefn o’r gyffordd â’r A497 i’n compownd adeiladu.  Bydd hyn yn cynnwys cyfyngu ar fynediad fel ei fod ar gyfer trigolion lleol yn unig, unrhyw ymwelwyr neu nwyddau sy’n cael eu danfon i’w heiddo ac ar gyfer cerbydau argyfwng, ond cau'r ffordd ar gyfer unrhyw draffig trwodd arall.

Ar ôl eu gosod, bydd angen y mesurau hyn yn ystod y gwaith adeiladu tan fis Rhagfyr 2026.  Ar ôl mis Rhagfyr 2026 bydd angen cyfnod byrrach o waith i dynnu’r peilonau i lawr pan fydd y gwaith o osod y ceblau tanddaear wedi’i gwblhau, ac wrth i’n cynlluniau ar gyfer y gwaith hwn ddatblygu, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn neu am unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 019 1898 (a gadael neges os gofynnir amdani).