Am y drydedd flwyddyn, mae tîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri y National Grid, a’i brif gontractwr Hochtief UK, wedi cefnogi ras 10k boblogaidd Llandecwyn, sy’n un o’r cyrsiau mwyaf serth a mwyaf heriol yng Nghymru.
Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 25 Mehefin, roedd uwch reolwr prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, Steve Ellison, a rheolwr prosiect Hochtief, David Murray, wedi cyfnewid eu hetiau caled am esgidiau rhedeg i ymuno â’r gymuned leol i redeg llwybr y 10km, sy’n mynd heibio i gompownd safle dwyreiniol y prosiect.
Y National Grid a oedd wedi noddi’r tlysau a ddyfarnwyd i’r rhedwyr a groesodd y llinell derfyn yn yr amser cyflymaf.
Darparodd Hochtief UK gefnogaeth logistaidd ar gyfer y ras, gan gynnwys toiledau a stiwardiaid gwirfoddol a oedd wrth law i sicrhau diogelwch yr holl gyfranogwyr a oedd yn defnyddio’r maes parcio.
Dyma oedd gan Steve Ellison i'w ddweud ar ôl iddo gwblhau’r 10k caled: “Roedd yn werth chweil ac yn llawer o hwyl ymgymryd â’r her hon ochr yn ochr â chymdogion ein safle ni ac aelodau o’r gymuned leol.
“Wrth i brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri fynd rhagddo ar y safle, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi a buddsoddi yn y gymuned leol lle bynnag y gallwn ni ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn digwyddiadau fel ras 10k Llandecwyn yn y dyfodol.”