Bu 12 cynrychiolwr o Gymdeithasau Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr yn ymweld ag Aber Afon Dwyryd ddydd Gwener 14 Hydref i gael golwg agos ar y peilonau y bwriedir eu tynnu.
Roedd y trip yn rhan o Gynhadledd Flynyddol Cymdeithasau Parciau Cenedlaethol a gynhaliwyd eleni yng Nghanolfan Awyr Agored Plas y Brenin yng Nghapel Curig.
Yn ystod diwrnod cyntaf y gynhadledd (dydd Iau 13 Hydref), bu Steve Ellison, yr Uwch Reolwr Prosiect ar gyfer prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (VIP), yn annerch y gynhadledd gan gyflwyno i 50 cynrychiolwr o Gymdeithasau Parciau Cenedlaethol, Cyrff Anllywodraethol a chyrff llywodraeth o bob cwr o’r wlad. Soniodd am gylch gwaith eang prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, rôl hanfodol rhanddeiliaid yn y broses gwneud penderfyniadau a’r effaith gadarnhaol y bydd y prosiectau’n ei chael – ac mewn rhai achosion maent eisoes yn ei chael – ar y dirwedd, yr amgylchedd a chymunedau lleol.
Ddydd Gwener, cyrhaeddodd y cynadleddwyr ym Mhenrhyndeudraeth a bu Steve yn arwain taith gerdded tywys tair awr o amgylch yr aber, gan aros mewn nifer o leoliadau i edrych ar y peilonau a thrafod agweddau allweddol ar y prosiect. Gofynnodd y grŵp ystod eang o gwestiynau a chafodd nifer o feysydd a phynciau eu trafod - technegau twnelu, ymdopi â’r ddaeareg leol, ymgysylltu â’r gymuned a strategaeth y gweithlu lleol.
Tîm John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, a drefnodd y gynhadledd tri diwrnod ac fe ddywedodd, “Ymgynghorwyd â ni o’r cychwyn cyntaf ynghylch y prosiect hwn, ond wrth gerdded llwybr y llinell beilonau, fel y gwnaethom ni heddiw, cawsom weld yn uniongyrchol maint ac effaith y prosiect gwych hwn i wella’r tirlun. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ei gynnydd ac at weithio ochr yn ochr â National Grid drwy gydol y cyfnod adeiladu.”
Ychwanegodd Steve Ellison, “Mae’n hanfodol i’r prosiect ein bod yn ymgysylltu’n llawn â’r gymuned leol ac yn mynd â phobl gyda ni ar bob cam o’r daith i sicrhau Dwyryd heb beilonau. Rydyn ni’n awyddus i siarad am y prosiect â phob grŵp cymunedol a rhanddeiliaid ac mae Cymdeithas Eryri yn ganolog i’r ymgysylltu hwn yn lleol.”
Dylai unrhyw un sy’n awyddus i gael gwybod mwy am y prosiect gysylltu â [email protected] neu ein ffonio ar 0800 019 1898.