Trefniadau gweithio ar safle, Nadolig 2024

Ers derbyn y Peiriant Twnelu yn ddiogel, mae tîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn parhau â'r gwaith paratoi ar gyfer dechrau adeiladu’r twnnel newydd o dan Aber Afon Dwyryd.

Er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau ar amser, bydd tîm bychan yn gweithio ar y safle yn y Garth ger Minffordd am rai dyddiau dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Byddan nhw’n parhau gyda’r gwaith o adeiladu shifft lansio’r Peiriant Twnelu.

Bydd y gweithgarwch hwn yn digwydd ar y dyddiau canlynol:

  • Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr
  • Dydd Llun 23 Rhagfyr
  • Dydd Gwener 27 Rhagfyr - Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr
  • Dydd Llun 30 Rhagfyr - Dydd Mawrth 31 Rhagfyr
  • Dydd Iau 2 Ionawr - Dydd Gwener 3 Ionawr
  • Dydd Sadwrn 4 Ionawr

Bydd yr holl waith adeiladu yn safle Llandecwyn yn dod i ben dros gyfnod y Nadolig, ac yn ail-ddechrau ddydd Llun Ionawr 6.

Bydd cyfleuster llety Hochtief UK ym Mlaen Cefn ar gau yn gyfan gwbl am bythefnos, ond bydd staff diogelwch 24 awr yn aros ar y safle.

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’r gymuned leol am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i ni wneud y gwaith hwn, a byddwn ni’n dal ati i geisio tarfu cyn lleied â phosib ar ein cymdogion.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwaith hwn neu am unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 018 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’r tîm gysylltu â chi.

Ar ran y tîm i gyd sy'n gweithio ar gynllun Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, hoffem ddymuno Nadolig heddychlon a Blwyddyn Newydd Dda i chi.