Yn gynharach eleni roedd timau o National Grid a HOCHTIEF UK sy’n gweithio ar brosiect VIP Eryri wedi ymuno â Chymdeithas Eryri a Coed Cadw mewn diwrnod gwirfoddoli ym Maentwrog.
Roedd y timau’n fwy cyfarwydd â pheirianneg na choedyddiaeth ond fe aethant ati i dynnu llewys coed yng Nghoed Llennyrch a Felenrhyd, coetir derw prin yr Iwerydd ac un o’n coetiroedd mwyaf yng Nghymru.
Ar ôl sesiwn brysur a gwerth chweil, cafodd y rheini a fu’n tynnu’r llewys coed ymweliad safle â’r coetir ac i fyny at y ffermdy sydd wrthi’n cael ei adnewyddu i fod yn ganolfan i wirfoddolwyr.
Mae National Grid wedi ymrwymo i gymunedau lleol ac i’r amgylchedd ac mae wedi addo y bydd ei wirfoddolwyr yn gwirfoddoli am 500,000 o oriau erbyn 2030, fel yr amlinellir yn ei Siarter Busnes Cyfrifol.
Os ydych chi’n grŵp, yn sefydliad neu’n elusen leol sydd â chyfleoedd gwirfoddoli, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Cysylltwch â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu drwy ffonio 0800 019 1898.