Ar ôl 14 mis o weithio o swyddfeydd yn is-orsaf Trawsfynydd, symudodd tîm VIP Eryri i'w safle newydd yn y Garth, ger Minffordd yn ystod mis Gorffennaf.
Bydd y safle newydd, sydd wedi'i leoli ar waelod Lôn y Chwarel lle mae'n cwrdd â'r lôn gefn, yn cynnwys 64 uned swyddfa i fod yn gartref i’r 150 o aelodau yn y tîm a fydd yn y pen draw yn gweithio ar y prosiect pan fydd ei weithgarwch ar ei anterth o 2024 i 2026. Bydd ystafelloedd cyfarfod, cegin a ffreutur a chyfleusterau lles eraill hefyd.
Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect VIP Eryri: "Mae lleoliad ein swyddfeydd newydd, o fewn ein safle yn y Garth, yn ddelfrydol ar gyfer rhedeg y prosiect yn effeithlon ac yn ddiogel. Pan fydd y peiriant torri twnnel (TBM) yn cael ei lansio'r flwyddyn nesaf, bydd y safle yn darparu cyfleusterau nid yn unig i weithwyr y swyddfa ond hefyd i'r cloddwyr medrus iawn a fydd yn gweithredu'r TBM 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
"Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddwn yn agor ein canolfan wybodaeth am y prosiect wrth fynedfa'r safle, bydd rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau yno i ddarganfod mwy am y prosiect a'i gynnydd."
Bydd y swyddfeydd yn Nhrawsfynydd bellach yn cael eu symud a bydd y safle hwnnw’n cael ei adfer yn ôl i’w ymddangosiad gwreiddiol o fewn yr isorsaf.