Worker in high-visibility PPE undertaking a pump test on site in Eryri
Prawf pwmpio hanfodol yn Llandecwyn

Yn ystod yr wythnos yn dechrau 8 Ebrill 2024 byddwn yn cynnal prawf pwmpio yn ein safle yn Llandecwyn; mae hwn yn ddarn pwysig o’n gwaith i adeiladu ein siafft yn ddiogel. Bydd angen i’r prawf hwn redeg am 48 awr, gan gynnwys dros nos. 

Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y gymuned leol ac rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i leihau unrhyw darfu cymaint ag y gallwn ni.

Byddwn yn codi rhwystrau acwstig i liniaru lefelau sŵn disgwyliedig y generadur sydd ei angen i bweru’r prawf pwmpio. Bydd y rhain yn cael eu gosod cyn y gwaith profi dros nos ac mae ein gwaith modelu sŵn yn dangos y byddant yn sicrhau y bydd unrhyw sŵn yn cael ei gadw o dan y lefelau a ganiateir. 

Rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw i’n cymdogion am unrhyw anhwylustod neu aflonyddwch a fydd yn cael ei achosi ac yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol wrth i ni weithio i gwblhau'r cam pwysig hwn o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn llwyddiannus. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu drwy ffonio 0800 018 1898 (a gadael neges os gofynnir am un – gwrandewir ar negeseuon yn aml a bydd aelod o’r tîm yn eich ffonio’n ôl).