Yn ystod yr wythnos yn dechrau 22 Ebrill 2024 byddwn yn cynnal dau brawf pwmpio yn ein safle yn Garth ger Minffordd; mae hwn yn ddarn pwysig o’n gwaith i adeiladu ein siafft yn ddiogel.
Bydd angen i’r profion hyn redeg am bedwar diwrnod a disgwylir y byddant wedi’u cwblhau erbyn 25 Ebrill. Bydd angen i’r pwmp redeg dros nos, ond ni fydd angen staff ychwanegol yn ystod yr oriau hynny.
Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y gymuned leol ac rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i leihau unrhyw darfu cymaint ag y gallwn ni.
Bydd y generadur i bweru'r pwmp wedi'i leoli y tu ôl i'r rhwystr acwstig, sydd eisoes wedi'i osod, i liniaru lefelau sŵn y generadur sy'n ofynnol i bweru'r profion pwmpio. Mae ein gwaith modelu sŵn yn dangos y bydd y rhain yn sicrhau y bydd unrhyw sŵn yn cael ei gadw o dan y lefelau a ganiateir.
Rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw i’n cymdogion am unrhyw anhwylustod neu aflonyddwch a fydd yn cael ei achosi ac yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol wrth i ni weithio i gwblhau'r cam pwysig hwn o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn llwyddiannus.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw fater sy’n ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu drwy ffonio 0800 018 1898 (a gadael neges os gofynnir am un – gwrandewir ar negeseuon yn aml a bydd aelod o’r tîm yn eich ffonio’n ôl).