
Fel rhan o gam olaf y gwaith diweddar gan Scottish Power Energy Networks (SPEN) ger ein compownd safle yn Llandecwyn, rydym wedi cael gwybod bod posibilrwydd o doriad pŵer yn yr ardal ddydd Sadwrn 10 Chwefror 2024.
Ar y dyddiad hwn, bydd SPEN yn cwblhau eu gwaith i ddargyfeirio’r llinell uwchben sy’n rhedeg ar draws ein safle, a fydd yn ein galluogi i adeiladu ein siafft newydd yn ddiogel.
Gallai’r gwaith amharu dros dro ar y cyflenwad trydan yn safle’r prosiect ac o’i gwmpas rhwng 8am a 5pm yn Llandecwyn.
Os yw hyn yn debygol o effeithio ar y cyflenwad trydan yn eich eiddo mewn unrhyw ffordd, bydd SPEN eisoes wedi cysylltu â chi i roi gwybod am y gwaith, a hyd tebygol unrhyw amhariad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwaith hwn, cysylltwch â SPEN ar 0845 270 0783 neu drwy eu gwefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 018 1898 (a gadael neges os gofynnir am un – gwrandewir ar negeseuon yn aml a bydd aelod o’r tîm yn dychwelyd eich galwad).