Mae Clwb Pêl Droed Iau Porthmadog yn dathlu’r newyddion ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid gan Raglen Grantiau Cymunedol y National Grid.
Anelir y Rhaglen Grantiau Cymunedol at elusennau a mudiadau cymunedol mewn ardaloedd lle mae gwaith Trosglwyddiad Trydan y National Grid yn effeithio ar bobl leol drwy ei weithrediadau a gweithgareddau ar y safle.
Mae’r Rhaglen yn ariannu prosiectau sy’n cael eu rhedeg gan elusennau a grwpiau cymunedol sy’n diwallu anghenion y gymuned leol drwy ddarparu amrywiaeth o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Gyda phrosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (VIP) y National Grid yn prysuro yn ardal Penrhyndeudraeth, gwnaeth Clwb Pêl-droed Iau Porthmadog gais am arian tuag at brynu goleuadau LED cludadwy a hefyd i atgyweirio eu cae.
Eglurodd Elfyn Pugh, Ysgrifennydd a Phrif Hyfforddwr Clwb Pêl Droed Iau Porthmadog: “Rydyn ni’n glwb iau ar lawr gwlad sy’n cynnwys 130 o aelodau rhwng 6 ac 16 oed, sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.
“Yn ystod yr haf, roedd pryfed teiliwr wedi dodwy wyau yn y cae rydyn ni’n ei ddefnyddio, ac mae moch daear, adar ac anifeiliaid eraill wedyn yn eu cloddio fel ffynhonnell o fwyd parod. Mae hyn wedi ei gwneud yn anodd i’r plant ymarfer a chwarae, felly fe wnaethom gais am grant i drin ac ail-hau’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.
“Rydyn ni hefyd wedi bod yn cael trafferth heb ein goleuadau ein hunain. Rydyn ni wedi gorfod talu i ddefnyddio’r goleuadau halogen o gae AstroTurf gerllaw i oleuo ein mannau ymarfer neu i logi caeau eraill gyda goleuadau gwell. Bydd grant y National Grid yn caniatáu i ni brynu 12 golau LED cludadwy ar gyfer ein hardal ymarfer.
“Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mor fawr: mae’n golygu y gallwn ymestyn ein hamseroedd hyfforddi, gan annog pobl ifanc i fod yn weithgar am fwy o amser dros fisoedd y gaeaf. Yn y pen draw, ein pwrpas yw cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, er mwyn iddynt allu manteisio i’r eithaf ar yr holl fanteision iechyd corfforol a meddyliol cysylltiedig. Dyna pam ein bod mor ddiolchgar i’r National Grid am y grant yma.”
Dywedodd Steve Ellison, Uwch-reolwr Prosiect y National Grid ar gyfer VIP Eryri: “Rydyn ni’n falch iawn bod cyllid o’n Rhaglen Grantiau Cymunedol, sydd wedi cael ei gynllunio’n arbennig i ariannu prosiectau mewn cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan ein gweithrediadau, wedi cael eu dyrannu i achos mor wych.
“Rydyn ni’n dymuno’r gorau i Glwb Pêl-droed Iau Porthmadog gyda’u cae wedi’i drwsio a’u goleuadau newydd.”
Nod y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwchben y National Grid ar draws Aber Afon Dwyryd. Mae hyn yn golygu tynnu tua 3km o linell uwchben, gan gynnwys deg peilon, ac adeiladu twnnel o dan yr aber.
Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Grantiau Cymunedol y National Grid ar gael yn: https://www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme