Nod y prosiect Darpariaeth Effeithiau Gweledol (VIP) ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwchben y National Grid ar draws Aber Afon Dwyryd o Finffordd i Landecwyn.
Nod y prosiect Darpariaeth Effeithiau Gweledol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwchben y National Grid ar draws Aber Afon Dwyryd o Finffordd i Landecwyn.
Mae rhanddeiliaid wedi cytuno mai’r ffordd orau o wneud hyn yw tynnu darn o’r llinell uwchben i lawr a chladdu’r ceblau trydan mewn twnnel o dan y ddaear yn ei lle. Dyma gyfle gwych i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth amgylcheddol y rhan hon o dirwedd gwerthfawr Eryri.
Mae’r darn o’r llinell uwchben a fydd yn cael ei thynnu i lawr yn rhedeg o Gompownd Pennau Selio (SEC) y Garth ger Minffordd ac yn croesi aber afon Dwyryd ym Mhenrhyndeudraeth, lle mae’n cyrraedd pen gorllewinol y Parc Cenedlaethol. Yna, mae’n mynd ymlaen tua’r dwyrain ychydig y tu hwnt i Landecwyn.
Cliciwch ar y ddolen isod i weld map o’r llinell drawsyrru bresennol, llwybr y twnnel a lleoliadau’r prif dai twnnel a’r compownd selio.
Mae’r darn hwn o’r llinell uwchben, a godwyd yn 1966, yn rhan o linell drydan 400kV sy’n cysylltu is-orsaf 400kV Pentir ger Bangor ag Atomfa Trawsfynydd gynt, sy’n is-orsaf 400kV erbyn hyn.
Mae ceblau tanddaear eisoes yn croesi aber afon Glaslyn i’r gorllewin o’r darn lle byddwn yn gweithredu’r prosiect Darpariaeth Effeithiau Gweledol.
Ar hyn o bryd, mae’r peilonau’n cario un gylched 400kV ar y naill ochr i’r peilon, a chylched arall 132kV ar yr ochr arall sy’n rhan o system Gweithredwyr y Rhwydweithiau Dosbarthu (DNO).
Scottish Power Energy Networks yw’r DNO yn yr ardal hon, a byddwn yn gweithio gyda nhw drwy gydol y prosiect.
Mae llwybr 4ZC yn rhan annatod o’r seilwaith trydan a lluniwyd y prosiect hwn i gyd-fynd â’r seilwaith presennol er mwyn helpu i sicrhau cyflenwadau trydan diogel a dibynadwy i ogledd Cymru a thu hwnt.
Nodwyd mewn astudiaeth annibynnol o’r dirwedd fod y darn hwn o’r llinell yn cael effaith fawr ar y dirwedd yn enwedig yng nghyffiniau Arfordir Ardudwy ac ar ddarn bychan o dirwedd Morfa Harlech. Mae hon yn dirwedd gymhleth a dramatig yn yr ardal rhwng arfordir y Parc Cenedlaethol, sy’n boblogaidd gan dwristiaid, a’r bryniau gerllaw.
Gwelir nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol yn glir yn y dirwedd brydferth sy’n werthfawr o ran cadwraeth a hamdden.
Mae’r llinell uwchben bresennol yn gwrthdaro â chymeriad y dirwedd. Mae’n amlwg iawn, yn ymwthiol ac yn cael effaith sylweddol ar y dirwedd o’i chwmpas.
Bydd cael gwared â’r llinell uwchben yn gwella nodweddion arbennig tirwedd yr ardal, yn cynnwys Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Aberglaslyn. Bydd golygfeydd ac amgylchedd parcdir a gerddi cofrestredig Portmeirion a nifer o adeiladau rhestredig eraill ar eu hennill hefyd. Pan gaiff y peilonau eu tynnu i lawr, bydd y golygfeydd yn well o ffyrdd a llwybrau lleol ac o reilffordd yr arfordir hefyd.
Ers 2015, rydym wedi cynnal cyfres o weithdai technegol ar gyfer rhanddeiliaid a digwyddiadau ‘galw heibio’ ar gyfer y cyhoedd yn y Parc Cenedlaethol. Roedd y gweithdai i randdeiliaid yn cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd y rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd a ddaeth i’r digwyddiadau yn ffafrio claddu’r ceblau o dan y ddaear. Y teimlad oedd na fyddai sgrinio neu guddliwio’r peilonau na defnyddio peilonau o gynllun gwahanol yn ddigonol. Parhaodd y gwaith o gydweithio â rhanddeiliaid technegol lleol er mwyn canfod a datblygu coridorau llwybrau posibl ar gyfer y gwaith hwn, a oedd yn cynnwys cydweithio â rhanddeiliaid a pherchnogion tir allweddol i ganfod unrhyw nodweddion o ran yr amgylchedd, archaeoleg a’r tir a fyddai’n dylanwadu ar leoliad llwybr tanddaear.
Ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2018, fe wnaethom ni gynnal digwyddiadau ymgynghori â’r cyhoedd dros dridiau ym Mhenrhyndeudraeth a Thalsarnau. Gwahoddwyd rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd i’r digwyddiadau hyn i gael mwy o fanylion am y prosiect, i siarad ag aelodau ein tîm ac i gyflwyno ymateb ffurfiol i’n cynlluniau.
Fe wnaethom gynnal rhagor o ddigwyddiadau ymgysylltu tua diwedd 2019. Ar ôl ystyried yr holl adborth gan randdeiliaid a phobl leol, fe wnaethom gyflwyno’r cais cynllunio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd ar 6 Mawrth 2020.
Roedd y cais hefyd yn cynnwys adeiladu dau dŷ pen twnnel newydd a fydd yn rhoi mynediad i’r twnnel ac yn darparu compownd pennau selio ym mhen dwyreiniol y twnnel er mwyn cysylltu’r ceblau â’r llinellau uwchben a fydd yn aros.
Ym mis Gorffennaf 2020, cawsom ganiatâd cynllunio gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Gwynedd yn amodol ar gyflawni nifer o amodau. Roedd y ddau bwyllgor cynllunio wedi cymeradwyo'r prosiect yn unfrydol.
Ym mis Ionawr 2022 cyhoeddwyd ein bod wedi penodi Hochtief UK fel ein prif gontractwr i gwblhau’r gwaith, yn dilyn proses dendro.
Ers hynny, rydym wedi parhau i ddatblygu’r dyluniad a thrafod gyda thirfeddianwyr.
Dechreuodd y gwaith yn yr ardal yn 2022, gyda rhagor o arolygon yn cael eu cynnal yn y gwanwyn a’r gwaith ymarferol o sefydlu’r safle yn dechrau ddiwedd y flwyddyn. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau’n llawn yn ddiweddarach yn 2023 a bydd y peilonau a’r llinell uwchben yn cael eu tynnu i lawr yn 2029.