Mae prosiect i drawsnewid tirwedd Eryri, sydd ag arwyddocâd cenedlaethol, gam yn nes at gael ei wireddu ar ôl penderfyniad pwysig gan awdurdod cynllunio lleol.
Fel rhan o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (VIP), mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd cynllunio i’r National Grid adeiladu tai pen twnnel ar ymyl y parc cenedlaethol (yn amodol ar gytundeb cyfreithiol).
Bydd yr adeiladau’n cynnwys agoriad y twnnel a fydd yn cario’r seilwaith o dan yr aber. Yn y pen draw, bydd hyn yn ein galluogi i gael gwared ar ddeg peilon sy’n rhedeg ar ei draws.
Fel rhan o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP)** y National Grid, y bwriad yw cael gwared ar ddeg peilon a thua 3km o’r llinell uwchben presennol sy’n rhedeg o Finffordd, ar draws Aber Dwyryd, ac sy’n parhau i’r dwyrain ychydig ymhellach na Chilfor. Bydd y ceblau hyn yn cael eu claddu mewn twnnel yn ddwfn dan yr aber.
Mae’r prosiect yn bwriadu gwella’r ardal brydferth a phoblogaidd ar gyfer y bobl leol a’r ymwelwyr sydd yn ei mwynhau’n rheolaidd.
Gan fod ardal y prosiect yn ymestyn dros ddau Awdurdod Cynllunio, penderfynodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd roi caniatâd cynllunio ar gyfer dau dŷ pen twnnel ar ochr orllewinol yr aber. Daeth hyn yn dilyn cymeradwyaeth gan Bwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i wneud gwaith ar ochr ddwyreiniol yr Aber ar ddechrau mis Gorffennaf.
Ers dechrau’r prosiect yn 2015, mae’r National Grid wedi bod yn cydweithio â rhanddeiliaid lleol i ddatblygu ei gynigion. Ymhlith y rhanddeiliaid hyn mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r cynghorau tref a chymuned o gwmpas yr aber.
Eryri yw trydydd prosiect VIP y National Grid i gymryd camau mor gadarnhaol ar ôl sicrhau caniatâd cynllunio i brosiectau ym Mharc Cenedlaethol y Peak District ac Ardal o Harddwch Naturiol yn Dorset eisoes.
Dywedodd Michelle Clark, Rheolwr Prosiect VIP y National Grid, “Rydym yn falch iawn bod Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ein bwriad i leihau effaith weledol 3km o’r llinell uwchben ar draws Aber Dwyryd. Dyma garreg filltir arwyddocaol yn natblygiad y prosiect, a hoffem ddiolch i Awdurdod y Parc a Chyngor Gwynedd am eu cyngor adeiladol drwy gydol y broses. Mae ein rhanddeiliaid wedi cyfrannu at ein cynigion o’r dechrau ac rydym nawr wedi cael y canlyniadau cadarnhaol roeddem yn gobeithio eu cael.”
Dywedodd Chris Baines, cadeirydd Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid cenedlaethol ac annibynnol y prosiect VIP: “Rwyf wrth fy modd ein bod gam arall yn nes at dynnu’r llinellau pŵer hyn ar ôl y penderfyniad pwysig hwn. Bydd yr effaith yn gweddnewid yr ardal, a bydd trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gallu mwynhau gogoniant Aber Dywyrd heb ei difetha am y tro cyntaf ers cenedlaethau lawer. Mae’r prosiect yn benllanw pum mlynedd o waith tîm ac ymgynghoriadau rhwng National Grid, rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol ac yn bwysicaf oll, y gymuned leol.