O ddydd Mercher i ddydd Gwener yr wythnos (6-8 Ebrill) hon bydd aelodau o’n tîm ecoleg allan yn Garth a Chilfor yn gwneud rhywfaint o waith arolygu. Bydd cydweithwyr o Atmos, yr ymgynghorwyr amgylcheddol sy’n gweithio gyda’r National Grid a Hochtief ar y prosiect VIP yn Eryri, yn cynnal arolygon ecolegol ar droed i ymestyn ein dealltwriaeth o’r planhigion a’r anifeiliaid yn yr ardal.
Ni ddylai’r gwaith gymryd mwy nag ychydig ddyddiau a dyma’r cyntaf o lawer o arolygon y byddwn yn eu cynnal yn ystod y misoedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys rhagor o arolygon ecolegol mwy penodol sy’n edrych ar rywogaethau unigol, codi ffensys ymlusgiaid i sicrhau ein bod yn cadw ymlusgiaid oddi ar y safle cyn i ni ddechrau gweithio, ynghyd â rhai ymchwiliadau archeolegol ac ymchwiliadau tir, felly peidiwch â synnu os gwelwch ein timau mewn siacedi llachar yn yr ardal.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi’n uniongyrchol ac ar ein gwefan os bydd angen i ni wneud unrhyw waith a allai darfu arnoch chi’n lleol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â ni.