Mae angen i ni uwchraddio rhan o rwydwaith trydan presennol gogledd Cymru, er mwyn symud ynni adnewyddadwy glân o ffynonellau newydd arfaethedig yn y rhanbarth i'r mannau ble mae ei angen.
Mae hyn yn cynnwys creu is-orsaf newydd ym Mryncir a newid ceblau trydan tanddaear ar draws aber afon Glaslyn ger Porthmadog a Thremadog.
Mae ein gwaith yn rhan o fenter unwaith-mewn-cenhedlaeth i uwchraddio'r grid trydan ledled Cymru a Lloegr, gan roi hwb i gynhyrchu trydan ym Mhrydain.
Y newyddion diweddaraf (Ebrill 2025)
Wrth i ni barhau i ddatblygu cynlluniau ein prosiect, rydym yn cydweithio â gwahanol randdeiliaid ac arbenigwyr technegol i sicrhau ein bod yn amharu cyn lleied ag y bo modd ar bobl, lleoedd a’r amgylchedd.
Mae'n bwysig iawn i ni ein bod yn rhannu gwybodaeth am ein prosiect â phobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal. Yn y misoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno ein prosiect trwy anfon cylchlythyr i gymunedau mewn ardaloedd ger y mannau lle bydd elfennau o’n gwaith yn digwydd, yn cynnwys Porthmadog, Tremadog, Minffordd, Bryncir a Phentir Byddwn yn cynnal y cyntaf mewn cyfres reolaidd o ddigwyddiadau i roi gwybodaeth i'r cyhoedd hefyd.
Ar hyn obryd, rhagwelwn y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yn gynnar yn 2026, os ceir caniatâd cynllunio, trwyddedau a chytundebau eraill
Gosodwyd y ceblau presennol ddiwedd yr 1970au ac maent yn cael eu defnyddio byth er hynny. Erbyn hyn, maent yn cyrraedd diwedd eu hoes weithredol ac mae angen eu newid er mwyn sicrhau bod y cyflenwadau trydan i’r ardal leol a’r tu hwnt yn dal yn gadarn.
Yn ogystal, mae angen i ni uwchraddio’r rhwydwaith lleol â cheblau ychwanegol, fel y gallwn drawsyrru ynni glân, adnewyddadwy o ffermydd gwynt newydd y bwriedir eu datblygu oddi ar lannau’r gogledd. Mae’r gwaith hwn yn bwysig er mwyn datblygu system ynni lanach, decach a mwy fforddiadwy sy’n gwasanaethu pawb – gan bweru ein cartrefi, ein trafnidiaeth a’n diwydiant i’r dyfodol.
Mae Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi pennu targedau uchelgeisiol ar gyfer datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Nghymru a'r DU dros y degawd nesaf. Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod ynni o ffynonellau adnewyddadwy yn bodloni swm cyfwerth â 70% o'r galw am drydan yng Nghymru erbyn 2030.
Bu gennym fwriad i wneud gwaith tebyg rai blynyddoedd yn ôl pan oedd Horizon Nuclear Power yn bwriadu datblygu prosiect Wylfa Newydd i gynhyrchu trydan ond nid yw’r cynllun hwnnw’n mynd ymlaen bellach.
Fel o'r blaen, mae’r gwaith hwn ar wahân i’n Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP), sy’n golygu cael gwared â rhan o’r llinell uwchben mewn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri sy'n weledol-sensitif a chladdu ceblau trydan mewn twnnel o dan y ddaear yn ei lle. Mae hefyd ar wahân i’n gwaith o newid ceblau tanddaear rhwng Gorsaf Bŵer Dinorwig a’n his-orsaf ym Mhentir. Rydym yn cydweithio’n agos ag eraill ar y prosiectau hyn er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn gydgysylltiedig ac yn effeithlon.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i'n gwaith symud ymlaen.
We need to upgrade part of our existing electricity network in North Wales, to move proposed clean renewable energy from new sources in the region to where it’s needed.
This includes creating a new substation in Bryncir and replacing underground electricity cables across the Glaslyn Estuary near Porthmadog and Tremadog.
Our work is part of a once-in-a-generation Great Grid Upgrade across Wales and England, playing a big part in plans to boost homegrown power.
Latest update (April 2025)
As we continue to develop the plans for our project, we are working with a wide range of stakeholders and technical experts to ensure that we minimise any impact on people, places and the environment.
It is really important to us that we share information about our project with people living and working locally.
In the coming months, we’ll be introducing our project in a newsletter sent to communities in areas near to where aspects of our work will take place, including Porthmadog, Tremadog, Minffordd, Bryncir and Pentir.
We will also be holding the first of a regular series of public information events.
We now anticipate construction starting in early 2026, subject to planning, licences and other agreements.
Based on our current timeline, we expect construction work will start in mid to late 2025. The existing cables were installed in the late 1970’s and have been in use ever since. They are now coming to the end of their operational life and need replacing to maintain the security of electricity supplies for the local area and beyond.
We also need to upgrade the network locally with additional cables, so we can transmit the clean renewable energy from proposed new offshore wind farms in North Wales. This work is an important part of building a cleaner, fairer and more affordable energy system that serves everyone – powering the future of our homes, transport and industry.
Wales and UK Governments have set ambitious targets for developing new homegrown sources of renewable energy at scale over the next decade. Welsh Government wants to meet the equivalent of 70% of Wales’s electricity demand from renewable energy sources by 2030.
We previously proposed similar work some years ago to support generation from Horizon Nuclear Power’s proposed Wylfa Newydd project, which is no longer going ahead.
As before, this work is separate from our ongoing Visual Impact Provision (VIP) Project, which is removing a section of overhead line in a visually sensitive part of Eyri National Park and replacing it with electricity cables buried in a tunnel. It's also separate from our work to replace underground cables between Dinorwig Power Station and our Pentir substation. We are working closely with our colleagues on these projects to ensure our work is coordinated and efficient.
We will keep this web page updated with further information as our work progresses.