Mae ein hymgynghoriad ar yr estyniad arfaethedig i is-orsaf Bodelwyddan yn cael ei gynnal rhwng 10 Hydref a 7 Tachwedd 2023.
Gallwch chi roi eich adborth i ni mewn sawl ffordd:
Llwytho ffurflen adborth i lawr o’r dudalen Llyfrgell Dogfennau ar y wefan hon, ei llenwi a’i hanfon atom drwy e-bost neu drwy’r post
Anfon eich adborth drwy e-bost i [email protected]
Byddwn ni'n cynnal dau ddigwyddiad lle bydd rhagor o wybodaeth ar gael. Gallwch chi hefyd siarad ag aelodau o’r tîm a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Manylion y digwyddiadau:
Os na allwch chi ddod i un o'n digwyddiadau, peidiwch â phoeni - gallwch chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion sydd ar waelod y dudalen hon.
Rydym yn croesawu barn pobl ar ein cynigion i gynyddu maint ein his-orsaf ym Modelwyddan, i’r de o Barc Busnes Llanelwy yng Nghefn Meiriadog, er mwyn i ni allu cysylltu ffynonellau ynni adnewyddadwy glân a newydd â’r rhwydwaith trydan yn ddiogel yng ngogledd Cymru.
Sylwch, mae ein gwaith i ad-drefnu’r llinell uwchben bresennol yn dilyn proses gydsynio wahanol, sy’n mynnu ein bod yn gofyn am gymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 37 o Ddeddf Trydan 1989. Gofynnir am farn Cyngor Sir Ddinbych, sefydliadau a rhanddeiliaid eraill fel rhan o’r broses hon. Byddwch chithau hefyd yn gallu cymryd rhan yn y broses hon, a chyflwyno sylwadau ar y cais am gydsyniad.
Oes gennych chi gwestiwn am ein cynigion neu am ein hymgynghoriad?
Cysylltwch â ni yn y ffyrdd canlynol:
Anfonwch e-bost i: [email protected]
Ffoniwch ni am ddim ar: 0800 915 3596
Rhadbost: FREEPOST NG SUBSTATION