National Grid yn trafod twnelu

Yn ddiweddar, cafodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) Eryri wahoddiad i roi darlith i Gymdeithas Twnelu Prydain yn eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gynhaliwyd ym mhrif swyddfeydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn Llundain. 

Yn ymuno ag ef ar y panel oedd Steve Woodrow, y pennaeth twnelu byd-eang yn AECOM, a Stephen Assenmacher, y pennaeth twnelu yn Hochtief, sef ein prif gontractwr ar gyfer y cynllun Darpariaeth Effaith Weledol Eryri. Roedd eu cyflwyniad yn canolbwyntio ar roi’r wybodaeth ddiweddaraf am statws prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri o safbwynt y cleient, y contractwr a’r dylunydd. 

Rhoddodd Steve Ellison drosolwg o’r prosiectau Darpariaeth Effaith Weledol yn y DU a’r pum tirwedd sydd wedi cael eu nodi fel y rhai y mae llinellau trawsyrru uwchben yn effeithio fwyaf arnynt, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Trafododd fanylion technegol y cynlluniau i adfer y dirwedd yn Eryri, a’r twnnel 3.4km a fydd yn cael ei adeiladu o dan Aber Afon Dwyryd i gladdu’r ceblau trydan, gan olygu y bydd 10 peilon yn cael eu tynnu i lawr. 

Roedd y ddarlith hefyd yn canolbwyntio ar y gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned y mae National Grid wedi bod yn eu cynnal wrth i’r prosiect symud tuag at gamau cyntaf y gwaith adeiladu. Roedd y rhain yn cynnwys gweithdai STEM rhyngweithiol mewn ysgolion lleol lle gwahoddwyd disgyblion i enwi’r peiriant tyllu twnelau a fydd yn creu twnnel Aber Afon Dwyryd – yr enw a ddaeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth honno oedd Buddug.

Wrth siarad ar ôl y ddarlith, dywedodd Steve: “Rydyn ni’n falch iawn o’r gwaith rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ac mae’n wych gallu arddangos sut rydym wedi bod yn darparu’r prosiect trawsnewidiol hwn i grŵp sydd mor chwilfrydig a gwybodus. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weld ein peiriant tyllu twnnel yn cyrraedd yn nes ymlaen eleni ac at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ni barhau â’n gwaith twnelu”.