Wrth i dîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri baratoi ar gyfer dyfodiad y Peiriant Twnelu i’r safle yn 2024, cynhaliwyd gweithdai mewn ysgolion cynradd lleol i ddathlu’r wyddoniaeth y tu ôl i’r gwaith twnelu.
Bu disgyblion brwdfrydig Cyfnod Allweddol 2 mewn saith ysgol leol yn cymryd rhan mewn gweithdai STEM rhyngweithiol a ddarparwyd gan Sbarduno, sef darparwr addysgol lleol profiadol. Cynhaliwyd y gweithdai yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd yn Ysgol Cefn Coch, Ysgol Borth-y-Gest, Ysgol Edmwnd Prys, Ysgol Eifion Wyn, Ysgol Talsarnau, Ysgol y Garreg ac Ysgol y Gorlan.
Bu tîm National Grid yn gweithio’n agos gyda Sbarduno, a oedd yn gyfrifol am gynllunio gweithdai diddorol, addysgiadol ac a oedd yn cysylltu gwybodaeth wyddonol ehangach â gwaith y Peiriant Twnelu. Rhoddwyd cotiau labordy a sbectolau diogelwch i’r disgyblion, er mwyn troi’r ystafell ddosbarth yn labordy a’r plant yn wyddonwyr.
Roedd y gweithgareddau archwilio yn helpu disgyblion i adnabod solidau, hylifau a nwyon, ac i ddadansoddi priodweddau gwahanol ddeunyddiau. Roedd hyn yn ffordd o gyflwyno’r disgyblion i’r Peiriant Twnelu, a chysylltu eu dysgu â’r priodweddau sy’n ei alluogi i greu twnnel – fel y bydd yn ei wneud o dan Aber Afon Dwyryd yn 2024-25.
Dywedodd Awen Ashworth o Sbarduno; “Roedd yn wych cyflwyno’r gweithdai hyn i ddisgyblion ifanc disglair a oedd yn awyddus i ddysgu ac yn barod i gymryd rhan ym mhob tasg. Cafwyd adborth cadarnhaol gan athrawon, a mynegwyd bod y sesiynau wedi bod yn werthfawr o ran hybu dysgu gwyddonol, dod â phrosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn fyw, ac annog darpar fyfyrwyr STEM."
Fel rhan o’r gweithdai, cafodd y disgyblion eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth enwi’r Peiriant Twnelu. Fel arfer, enw benywaidd sy’n cael ei roi ar Beiriannau Twnelu, a gofynnwyd i’r disgyblion awgrymu enw sydd wedi’i ysbrydoli gan ffigur arwyddocaol yn niwylliant, chwedloniaeth, neu STEM Cymru. Byddwn yn cyhoeddi’r enw buddugol ym mis Ionawr 2024.