Dyma’r peiriant twnelu’n dod

Ar ôl misoedd o gynllunio a pharatoi gofalus, croesawodd tîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ei beiriant twnelu i safle’r prosiect ym Minffordd.

Bydd y peiriant yn cael ei ddefnyddio i gloddio’r twnnel ar gyfer y ceblau trydan tanddaearol a fydd yn disodli’r 3km o linellau uwchben a’r 10 peilon sy’n croesi Aber Afon Dwyryd. 

Cafodd y peiriant twnelu, a adeiladwyd yn yr Almaen gan Herreknecht, ei gludo mewn darnau ar draws Môr y Gogledd i Ddociau Immingham yn Swydd Lincoln i ddechrau, cyn cael ei gludo i wasanaethau Caer. 

Rhwng dydd Llun 18 a dydd Gwener 29 Tachwedd, teithiodd ar draws Gogledd Cymru ar hyd yr A55 a’r A487 – mewn 27 o ddanfoniadau gwahanol – i gompownd adeiladu safle Garth prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri. 

Yr hydref diwethaf, enillodd Scarlett Katie Lebeau Harvey o Ysgol Eifion Wyn gystadleuaeth y National Grid i enwi’r peiriant twnelu gyda’i chynnig, Buddug. 

Yr enw Cymraeg am Victoria yw Buddug. Mae'n deillio o’r gair 'buddugoliaeth', sef y cyfieithiad Cymraeg o'r gair Lladin 'victoria’ (‘victory’ yn Saesneg), ac mae’n golygu arweinyddiaeth, buddugoliaeth, cryfder, gwytnwch, deallusrwydd ac optimistiaeth.

Ar y diwrnod y danfonwyd darn blaen mawr y peiriant twnelu, sef y darian, daeth cadeirydd Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid y prosiect, yr amgylcheddwr a’r darlledwr Chris Baines, a phrif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Jonathan Cawley, i ymuno â thîm y safle i weld y peiriant yn cyrraedd. 

Roedd llawer o aelodau o’r gymuned leol hefyd yn sefyll ar y strydoedd i gael cipolwg ar Buddug wrth iddi deithio drwy gymunedau lleol, gan gynnwys Penmorfa a Minffordd. 

Dywedodd Steve Ellison, uwch reolwr prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri y National Grid: “Roedd sawl mis o baratoi ar gyfer dyfodiad y peiriant twnelu, a buom yn gweithio’n galed i leihau unrhyw darfu y gall danfoniadau fel hyn ei achosi ar ffyrdd lleol weithiau.

“Rydyn ni wir wedi gwerthfawrogi cydweithrediad a dealltwriaeth y gymuned leol dros yr wythnosau diwethaf ac roedd yn wych gweld faint o gyffro y mae’r cam pwysig hwn yn ein prosiect wedi’i sbarduno.”

Mae Buddug bellach wedi cyrraedd y safle’n ddiogel, ac mae’r gwahanol ddarnau wedi cael eu dadlwytho’n ofalus yn barod i gael eu cydosod. Ar ôl ei gwblhau, bydd y peiriant twnelu yn mesur 166m ac yn pwyso 436 tunnell. 

Dros y misoedd nesaf, bydd tîm y prosiect yn paratoi i lansio’r peiriant twnelu yn gynnar yn y flwyddyn newydd pan fydd yn dechrau ar ei daith o dan y ddaear. Bydd yn cyrraedd pen ei daith yn Llandecwyn ganol 2026.

Os oes gennych chi gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost atom yn [email protected], neu ffonio 0800 018 1898 rhwng 9am a 5:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’n tîm gysylltu â chi.