Diweddariadau traffig: Symudiadau’r Peiriant Tyllu Twnnel o 18 Tachwedd ymlaen

O ddydd Llun 18 Tachwedd 2024 bydd nifer o gyflenwadau mawr yn dod i safle'r prosiect ar hyd yr A55, A487 a’r A497. Bydd hyn ar gyfer cludo’r TBM, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gloddio'r twnnel a fydd yn cario ceblau trydan o dan Aber Afon Dwyryd.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am lwybr taith y TBM i’r safle.

Bydd yr holl lwythi’n cael eu trefnu yn ystod yr wythnos ac ar adegau i osgoi tagfeydd yn ystod y cyfnodau prysuraf o draffig lle bo hynny’n bosibl.

Mae’r llwythi wedi’u trefnu ar y dyddiadau canlynol gyda’r amseroedd cyrraedd disgwyledig yn safle’r prosiect yn Garth:

Dydd Mercher 20 Tachwedd rhwng 10am – 11am a 12pm – 1pm

Dydd Iau 21 Tachwedd – Dydd Gwener 22 Tachwedd – dim danfoniadau

Dydd Llun 25 Tachwedd rhwng 10am – 11am a 3pm – 4pm

Dydd Mawrth 26 Tachwedd rhwng 10am – 11am a 12pm – 1pm

Dydd Mercher 27 Tachwedd – lori HGV arferol

Dydd Iau 28 Tachwedd rhwng 10am – 11am

Dydd Gwener 29 Tachwedd rhwng 12pm – 1pm

Dydd Llun 2 Rhagfyr – lori HGV arferol

Dydd Mawrth 3 Rhagfyr – lori HGV arferol

Nodwch mai amcan amseroedd yw’r rhain ac y gallant newid.

Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol yn ystod y cyfnod pwysig hwn a hoffem ymddiheuro ymlaen llaw i’n cymdogion am unrhyw anghyfleustra y gall y danfoniadau hyn ei achosi.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am y danfoniadau neu unrhyw fater arall yn ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â’n tîm drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 019 1898 rhwng 9am a 5.30pm, Llun-Gwener. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges a byddwn yn cysylltu’n ôl â chi.