Cyn bo hir bydd National Grid yn nodi carreg filltir bwysig arall i gynllun Darpariaeth Effaith Weledol Eryri gyda dyfodiad y Peiriant Tyllu Twnnel (TBM) i’r safle.
O ddydd Llun 18 Tachwedd 2024 bydd nifer o gyflenwadau mawr yn dod i safle'r prosiect ar hyd yr A55, A487 a’r A497. Bydd hyn ar gyfer cludo’r TBM, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gloddio'r twnnel a fydd yn cario ceblau trydan o dan Aber Afon Dwyryd.
Pan fydd wedi'i roi at ei gilydd, bydd y TBM yn mesur 166 metr o hyd ac yn pwyso 436 tunnell, fodd bynnag bydd yn cael ei wahanu'n gydrannau ar gyfer ei gludo i'n compownd adeiladu yn Garth ger Minffordd.
Beth i'w ddisgwyl
Bydd cyfanswm o 27 o ddanfoniadau dros gyfnod o hyd at dair wythnos. O'r rhain, bydd 21 yn symudiadau AIL, gydag wyth llwyth yn gofyn am hebryngwr heddlu llawn a 13 o lwythi yn gofyn am hebryngwr heddlu rhannol. Bydd y chwe danfoniad arall yn HGVs arferol nad oes angen unrhyw hebryngwr heddlu arnynt.
Bydd rhwng un a phedwar danfoniad y dydd yn ystod y cyfnod danfon. Bydd yr holl ddanfoniadau yn cael eu hamserlennu yn ystod yr wythnos, yn ystod oriau golau dydd, ac ar adegau sy'n ceisio osgoi ardaloedd lle ceir tagfeydd yn ystod cyfnodau prysur o draffig.
Ar ôl cael ei ddanfon i'n compownd safle, bydd y TBM yn cael ei ddadlwytho a'i baratoi i'w lansio yn gynnar yn 2025. Bydd yn cyrraedd pen ei daith yn Llandecwyn ganol 2026.
Y llwybr cludo
Bydd y llwythi mawr yn cael eu cario ar drelars arbenigol ac yng nghwmni Heddlu Gogledd Cymru a cherbydau hebrwng preifat i reoli traffig a sicrhau diogelwch.
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), Llywodraeth Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, awdurdodau lleol perthnasol a’n contractwr cludiant arbenigol, Fracht Group UK, i gynllunio’r llwybr a’r amserau’n ofalus er mwyn lleihau’r aflonyddwch i bobl leol ac i draffig lle bynnag y bo modd.
Bydd y TBM yn cael ei gludo o'r Almaen i'r DU ar long i Ddociau Immingham, gogledd ddwyrain Swydd Lincoln, yna'n cael ei gludo i Wasanaethau Caer (Chester Services) ar yr M56 cyn iddo gyrraedd Gogledd Cymru. Yng Nghymru, bydd y llwythi mawr sy’n cario cydrannau’r TBM yn cael eu cludo ar gefnffyrdd a ffyrdd lleol yr A55, yr A487 a’r A497.
Ar bob diwrnod danfon, bydd y cerbydau yn cychwyn o Wasanaethau Caer a disgwylir i'r amser teithio gymryd tua chwe awr yn gyffredinol. Bydd y llwythi'n symud ar gyflymder o hyd at 40mya ar gyfer rhan gyntaf y llwybr ar hyd ffordd ddeuol yr A55 ac yna rhwng 20mya a 30mya ar gyfer y rhan fwyaf o'r llwybr ar hyd yr A487. Bydd adegau pan fydd y llwythi'n mynd yn arafach na hynny, megis pan fyddant yn teithio drwy ran gulaf y llwybr ym Mhenmorfa, lle byddant yn symud ar gyflymder cerdded.
Bydd yr AILs wedyn yn teithio ar hyd ffordd osgoi Porthmadog (A487), heibio Chwarel Breedon Minffordd ac at gylchfan Minffordd. Yna byddant yn troi i'r dde ar hyd yr A497, cyn pasio’r fynedfa i’r ffordd gefn i Finffordd yn Britannia Terrace o ychydig fetrau, yna bacio am yn ôl i lawr i safle Garth.
Pan fydd y tryciau cludo mawr wedi dadlwytho cydrannau’r TBM ar safle prosiect VIP Eryri, bydd maint y tryciau'n cael ei addasu a byddant yn teithio ymaith fel HGVs safonol.
Gwaith ar gylchfan Minffordd
Er mwyn caniatáu i'r llwythi mawr droi'n ddiogel ar gylchfan Minffordd, bydd angen i ni dynnu arwyddion stryd dros dro o amgylch cylchfan Minffordd, dim ond wrth i'r llwyth fynd heibio i'r fan honno. Er mwyn galluogi hynny i ddigwydd, mae angen i ni amnewid yr arwyddion parhaol gydag arwyddion dros dro, sy’n hawdd eu symud, cyn y cyfnod danfon sydd rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2024.
Bydd y gwaith i wneud yr addasiadau hyn yn dechrau ar 4 Tachwedd 2024 a bydd yn para hyd at bum niwrnod. Bydd yr holl waith ar gylchfan Minffordd yn digwydd yn ystod dyddiau’r wythnos rhwng 9:30am a 4:30pm.
Bydd rheolaeth traffig ar ffurf goleuadau traffig dros dro 4-ffordd yn ei lle tra bydd y gwaith i symud, cyfnewid ac yna ailosod yr arwyddion yn digwydd, a phan fydd y llwythi AIL yn mynd ar hyd y rhan hon o’r daith.
Ar ôl i'r TBM gael ei ddanfon i'r safle’n llwyddiannus, byddwn yn ailosod yr arwyddion stryd parhaol a'r dodrefn stryd yn llawn, a bydd hynny’n cymryd hyd at ddau ddiwrnod i'w gwblhau.
Ar ddiwrnodau pan nad oes unrhyw beth yn cael ei gludo i’r safle, bydd yr holl fesurau rheoli traffig yn cael eu diddymu er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr y ffyrdd.
Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y gymuned leol yn ystod y cyfnod pwysig hwn a hoffem ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gall y danfoniadau hyn ei achosi i’n cymdogion.
Mae rhagor o wybodaeth am brosiect VIP Eryri ar gael yn nationalgrid.com/eryrivip. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 019 1898 (a gadael neges os gofynnir).