O ddiwedd mis Mai, bydd ein timau yn dechrau ar y gwaith o greu’r fynedfa i’n safle a lleoliad un o’n tai pen twnnel yn Llandecwyn. Bydd hyn yn gofyn am yr angen am oleuadau traffig dros dro wedi'u lleoli'n agos i'r lle y maent wedi'u lleoli ar hyn o bryd ar yr A496 gyferbyn â'r gwaith trin dŵr.
Dim ond tra byddwn yn sefydlu mynedfa newydd i gompownd y safle ar gyfer prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) Eryri y mae angen y goleuadau.
Gelwir y pwyntiau mynediad hyn yn ‘bellmouths’, sy’n cyfeirio at siâp y fynedfa – maent yn llydan iawn i ganiatáu mynediad diogel i gerbydau fynd i mewn ac allan o’r safle.
Mae disgwyl i'r gwaith gymryd hyd at bedair wythnos a dylai gael ei gwblhau cyn ddiwedd mis Mehefin. Fodd bynnag, rydym wedi hysbysu Cyngor Gwynedd y gallai'r goleuadau aros yn eu lle tan ddiwedd mis Gorffennaf yn yr achos annhebygol y byddwn yn profi oedi gyda'r gwaith.
Cyn gynted ag y bydd y fynedfa newydd wedi’i chwblhau, bydd y mesurau rheoli traffig yn y lleoliad hwn yn cael eu dileu.
Hoffem ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra sy’n gysylltiedig â’n gwaith, ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau aflonyddwch drwy gydol y gwaith adeiladu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynllun VIP Eryri yn gyffredinol, cysylltwch â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 019 1898.