Yn ystod yr haf, fe wnaethom rannu ein cynigion i gyflwyno cyfres o fesurau rheoli traffig ym Minffordd. Bydd y rhain yn cael eu rhoi ar waith cyn sefydlu un o brif gompowndiau adeiladu’r prosiect ar dir wrth ymyl y ffordd gefn i Finffordd ger Lôn y Chwarel.
Ers hynny, rydym wedi ymgynghori â phobl leol, gan gynnwys yn ein digwyddiadau galw heibio a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn, yn ogystal ag yn uniongyrchol â nifer o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cynghorwyr lleol a’r tîm priffyrdd yng Nghyngor Gwynedd, Cyngor Tref Penrhyndeudraeth, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), a Sustrans.
Roeddem eisiau rhoi crynodeb byr o’n dull o gyflwyno mesurau rheoli traffig, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae hyn wedi newid ers i ni rannu ein cynigion gwreiddiol.
Ble bydd y traffig adeiladu yn mynd?
- Bydd traffig adeiladu yn mynd i’r safle o gylchfan Minffordd ar yr A487. Yna, bydd yn teithio ar hyd y Stryd Fawr (A497), gan fynd heibio pen uchaf Lôn y Chwarel, cyn troi ar y troad nesaf i’r dde i lawr y ffordd gefn i Finffordd i gyrraedd y compownd adeiladu. Wrth adael y compownd adeiladu, bydd y traffig adeiladu yn troi i’r dde allan o’r safle, gan sicrhau nad oes unrhyw draffig adeiladu’n defnyddio Lôn y Chwarel.
Pa fesurau rheoli traffig a diogelwch fydd yn cael eu cyflwyno?
- Gyda chynnydd mewn traffig ar hyd y ffordd gefn, rydyn ni’n bwriadu cyfyngu mynediad ar hyd y rhan hon o’r ffordd rhwng y gyffordd â’r A497 a’n compownd adeiladu. Byddai hyn yn cynnal mynediad ar gyfer trigolion lleol, unrhyw ymwelwyr neu nwyddau sy’n cael eu danfon i’w heiddo ac ar gyfer cerbydau argyfwng, ond byddai’n cyfyngu ar fynediad ar gyfer unrhyw draffig trwodd arall. Ni fyddai unrhyw effaith ar fynediad i Lôn y Chwarel a’r eiddo gerllaw ar gyfer traffig sy’n dod o gyfeiriad y dwyrain.
- Bydd y ffordd fydd yn cael ei chyfyngu’n cael ei rheoli yn y rhannau cul gyda goleuadau traffig neu’n signalau traffig wedi eu rheoli â llaw. Bydd stiwardiaid traffig a chaban lles yn cael eu gosod ar gyffordd yr A497 neu gerllaw'r gyffordd honno. Bydd y mesurau rheoli traffig yn aros yn eu lle bob amser, er na fydd staff yn gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau.
- Bydd goleuadau traffig dros dro tair-ffordd yn gweithredu fel sy’n ofynnol ar gyffordd yr A497 i gynorthwyo lorïau i yrru i mewn ac allan o’r ffordd gefn, a byddai rhan o’r terfyn cyflymder 40mya presennol ar yr A497 yn cael ei gostwng i derfyn cyflymder cynghorol o 20mya.Sylwch ein bod yn rhagweld mai dim ond y goleuadau traffig ar y lôn gefn fydd yn weithredol am y rhan fwyaf o'r amser, felly ni fydd effaith ar yr A497. Dim ond pan fydd cerbydau mwy neu nifer fawr o gerbydau angen mynediad i’r safle y bydd y goleuadau ychwanegol ar yr A497 yn cael eu defnyddio i reoli traffig. Ni fydd y goleuadau ar yr A497 yn weithredol pan fydd y mesurau rheoli traffig yn dechrau yn 2023 a byddwn yn sicrhau bod pobl leol ac awdurdodau perthnasol yn cael gwybod pan fyddwn ni’n bwriadu eu defnyddio.
- Byddai terfyn cyflymder cynghorol 20mya hefyd yn cael ei roi ar waith rhwng y gyffordd hon a’r compownd adeiladu. Bydd y mynediad i gerddwyr i fynwent Minffordd yn cael ei gau dros dro nes bydd gwaith adeiladu wedi’i gwblhau, er y bydd y fynwent ei hun yn aros ar agor.
Pa newidiadau ydych chi wedi’u gwneud ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid?
- Yn flaenorol, roeddem wedi ystyried dargyfeirio beicwyr sy’n defnyddio Llwybr Beicio Cenedlaethol (NCR) 8, sy’n rhedeg ar hyd y ffordd gefn, ar hyd yr A497 a’r A487 rhwng Rhes Britannia ym Minffordd a Phenrhyndeudraeth.
Fodd bynnag, ar ôl ymgynghori â thrigolion lleol a rhanddeiliaid gan gynnwys Sustrans, ni fyddwn yn dargyfeirio beicwyr oddi ar llwybr presennol yr NCR 8. Yn lle hynny, byddwn yn rheoli traffig beiciau ar hyd y llwybr yn ofalus ac yn ddiogel yn ystod y gwaith adeiladu, gan sicrhau ei fod yn aros yn glir, yn lân ac yn daclus. Bydd cerddwyr hefyd yn gallu defnyddio’r llwybr.
Cysylltwch â ni
Mae’r cynlluniau rheoli traffig hyn wedi cael eu hystyried a’u datblygu’n ofalus er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar y gwaith adeiladu wrth i ni drawsnewid y dirwedd.
Os byddwn yn cael cadarnhad terfynol gan Gyngor Gwynedd, rydym yn disgwyl rhoi’r mesurau hyn ar waith rhwng canol mis Chwefror 2023 a mis Rhagfyr 2026. Ar ôl mis Rhagfyr 2026 bydd angen cyfnod byrrach o waith i dynnu’r peilonau i lawr, ac wrth i’n cynlluniau ar gyfer y gwaith hwn ddatblygu, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Amgaeir manylion llawn ein cynlluniau gyda’r llythyr hwn i chi gael golwg arnynt.
Dylech gyflwyno unrhyw sylwadau erbyn 14 Ionawr 2023. I gysylltu â thîm y prosiect VIP, gallwch anfon e-bost atom yn [email protected] neu ein ffonio ni ar 0800 019 1898 (a gadael neges os gofynnir i chi wneud hynny).