Mae Scarlett Katie Lebeau Harvey o Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog wedi cael ei henwi’n enillydd cystadleuaeth y National Grid i enwi’r Peiriant Twnelu arbenigol a fydd yn creu un o dwneli hiraf Cymru.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth fel rhan o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri y National Grid, sy’n ceisio lleihau effaith weledol llinell uwchben y National Grid ym Mharc Cenedlaethol Eryri drwy dynnu deg peilon a thua 3km o’r llinell uwchben bresennol ar draws Aber Afon Dwyryd.
Mae newid y llinell uwchben am geblau trydan wedi’u claddu mewn twnnel o dan y ddaear yn gyfle mawr i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth amgylcheddol y dirwedd werthfawr hon. Er mwyn adeiladu’r twnnel, bydd angen defnyddio Peiriant Twnelu, sy’n offer arbenigol pwrpasol a fydd yn creu twnnel concrid sy’n cael ei leinio fesul segment gyda diamedr mewnol o 3.5 metr.
Mae’r peiriant 166 metr o hyd wedi cael ei ailweithgynhyrchu yn yr Almaen gan Herreknecht AG, ac mae’n pwyso 475 o dunelli. Ym mis Ebrill 2024, bydd yn cael ei gludo i safle prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn Garth, Minffordd, mewn hyd at 24 o lwythi unigol a chaiff ei osod at ei gilydd ar y safle.
Yn unol â’r traddodiad twnelu, roedd angen enw ar Beiriant Twnelu Eryri – enw benywaidd yn draddodiadol – i’w beintio mewn llythrennau mawr ar y peiriant ei hun. Trodd tîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri at ddisgyblion ysgolion cynradd lleol am help gyda’r dasg bwysig o ddewis enw addas, a dewiswyd yr enillydd gan banel o aelodau tîm y prosiect o National Grid a Hochtief UK, sef prif gontractwr y cynllun, yn ogystal â’r pedwar cynghorydd sir sy’n lleol i ardal prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri.
Buddug oedd yr enw buddugol, a gynigiwyd gan Scarlett Katie Lebeau Harvey, 11, o Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Roedd y beirniad yn hoff iawn o ymgais Scarlett, a oedd yn cynnwys ei hesboniad, “Rydw i wedi dewis yr enw yma oherwydd bod Buddug yn golygu buddugoliaeth a deallus.”
Yr enw Cymraeg am Victoria yw Buddug. Mae'n deillio o 'buddugoliaeth', y cyfieithiad Cymraeg o'r gair Lladin 'victoria' sy'n golygu 'buddugoliaeth' ac mae iddo'r ystyr arweinyddiaeth, buddugoliaeth, cryfder, gwytnwch, deallusrwydd ac optimistiaeth.
Roedd Scarlett, ynghyd â disgyblion Cyfnod Allweddol 2 eraill o’r saith ysgol gynradd sydd fwyaf lleol i safle’r prosiect, wedi cael eu cyflwyno i’r prosiect yn ystod hydref 2023 mewn gweithdai STEM Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gwyddonwyr. Cyflwynwyd y gweithdai gan y cwmni lleol, Sbarduno, gan ddefnyddio gweithgareddau ymarferol i ddarparu gwybodaeth am y prosiect, ei heriau a thasg arbenigol y Peiriant Twnelu.
Ar ôl clywed y newyddion ei bod wedi ennill y gystadleuaeth, meddai Scarlett: “Rydw i mor hapus i ennill. Fe wnes i wir fwynhau’r gweithdy STEM yn yr ysgol ac rydw i wrth fy modd yn meddwl y bydd yr enw a ddewisais yn cael ei beintio ar ochr peiriant mor bwysig. Ar ôl i’r peiriant greu’r twnnel, gellir tynnu’r peilonau i lawr, a bydd hyn yn gwneud yr ardal hyd yn oed yn fwy prydferth.”
Fel rhan o’i gwobr, bydd Scarlett a’i rhieni yn cael eu gwahodd i weld y peiriant twnelu wrth iddo gyrraedd y safle yn nes ymlaen yn y flwyddyn, a byddant yn cael tynnu eu llun wrth ei ymyl.
Dywedodd Steve Ellison, Uwch-reolwr Prosiect y National Grid dros Ddarpariaeth Effaith Weledol Eryri:
“Mae rhanddeiliaid a’r gymuned wedi bod wrth galon y prosiect drwy gydol y broses, ac mae’r cynllun wedi cael ei ddylunio a’i fireinio gyda chyngor arbenigwyr lleol a chynrychiolwyr cymunedol.
“Mae helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gwyddonwyr yn Eryri yn elfen bwysig o’n gwaith yn y gymuned. Cawsom ymateb gwych i’n gweithdai STEM rhyngweithiol ac i’r gystadleuaeth i enwi’r peiriant twnelu. Roedden ni’n falch iawn o faint o ymchwil a gwreiddioldeb a ddangoswyd gan y disgyblion a hoffem longyfarch Scarlett ar ddewis yr enw buddugol.
“Bydd dyfodiad y peiriant twnelu yn garreg filltir gyffrous i brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri a bydd yn arddangos y cyfuniad pwerus o dechnoleg a gwyddoniaeth lefel uchel sy’n cael ei ddefnyddio i gyfoethogi harddwch naturiol ein tirwedd.”