Dan y chwyddwydr…Rhys Davies

Dan y chwyddwydr…Rhys Davies

Gyda’r gwaith adeiladu ar brosiect VIP Eryri yn ei anterth, mae tîm sylweddol yn gweithio ar draws ein safleoedd ym Minffordd a Llandecwyn sydd wedi ymrwymo i droi’r cynlluniau i gael gwared ar y peilonau ar draws Aber Afon Dwyryd yn realiti. I gychwyn cyfres newydd sy’n rhoi sylw i’r unigolion talentog y tu ôl i’r llenni, dyma holi Rhys Davies o Hochtief UK i ddarganfod mwy amdano a’i rôl ar y prosiect.

Mae Rhys Davies, aelod allweddol o dîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ar ran Hochtief UK, ein prif gontractwr, yn beiriannydd sifil cymwysedig ac yn frodor o Flaenau Ffestiniog. Fel rhywun sy’n frwd dros ddatrys problemau, ac sydd â gyrfa liwgar a ddechreuodd yn 16 oed, mae Rhys yn ymuno â’n prosiect gyda chyfoeth o brofiad ymarferol yn y maes.

“Ers pan yn ifanc, rydw i bob amser wedi mwynhau gwthio fy ffiniau a mynd i’r afael â heriau newydd. Yn ystod fy ngyrfa, rydw i wedi gweithio ar brosiectau adeiladu a seilwaith mawr; gan gynnwys HS2, gwaith twnelu a’r rhwydwaith ffyrdd strategol, yn ogystal ag arwain prosiect a gafodd ddwy wobr ICE am arloesi a defnyddio technoleg newydd. 

“Roedd ymuno â thîm Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ar brosiect cyffrous ac arloesol mor agos at fy nghartref yn swydd ddelfrydol i mi.” 

Rôl Rhys ym mhrosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri:

“Yn safle Garth ym Minffordd, rwy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli ein safle a’n rhaglen yn ddiogel ac yn effeithlon. Mae hyn yn cynnwys gwaith cynllunio, trefnu rhaglenni, cydlynu trwyddedau a gwaith dros dro, goruchwylio gweithgarwch ar y safle, a sicrhau bod morâl a chymhelliant ein tîm yn uchel bob amser. 

“Yn rhyfedd iawn, y pethau rwy’n eu mwynhau fwyaf am fy swydd yw’r natur anrhagweladwy a’r amgylchedd prysur iawn, oherwydd ni waeth pa mor fanwl rydych chi’n cynllunio pethau – rhywbeth rydym yn ymfalchïo ynddo – mae bywyd bob amser yn dueddol o daflu rhywbeth annisgwyl tuag atoch. 

“Mae pob diwrnod yn dod â her newydd. Rwy’n meddwl bod peirianneg yn debyg i yrru ar y ffordd: weithiau byddwch yn mynd dros dwll yn y ffordd sy’n drysu eich llwybr, ond rydych chi’n llwyddo i ddod yn ôl ar y trywydd iawn a chyrraedd diwedd eich taith. Dyna sy’n gwneud peiriannydd gwerth ei halen – y gallu i ddatrys problemau pan fyddwch chi’n wynebu heriau yn ystod prosiect.” 

Fy nghyngor i ddarpar beirianwyr:

“Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n chwilio am swydd fel peiriannydd i gadw meddwl agored bob amser. Rydych chi’n dysgu rhywbeth newydd drwy’r amser, felly gwnewch y mwyaf o’r wybodaeth a gewch gan y bobl o’ch cwmpas. Ymfalchïwch yn yr hyn rydych chi’n ei wneud, a dangoswch agwedd gadarnhaol bob dydd.”

Diddordebau:

“Pan nad ydw i’n gwisgo fy het galed, mae’n bosibl y dowch o hyd i mi yn y gampfa, yn treulio amser gyda’r teulu neu’n gwneud rhywfaint o waith DIY.”