English version / Fersiwn Saesneg
Cysylltu ffermydd gwynt trwy Ganolbarth Cymru a Swydd Amwythig
Mae National Grid yn bwriadu cysylltu ffermydd gwynt newydd yng Nghanolbarth Cymru â rhwydwaith trawsyrru trydan Prydain gan ddefnyddio cysylltiad newydd trwy Bowys a Swydd Amwythig.
Mae’r ffermydd gwynt yn cael eu datblygu fel rhan o gynlluniau i gynhyrchu rhagor o ynni o ffynonellau adnewyddadwy. Nid oes lle ar y rhwydwaith trydan presennol yn yr ardal i gario rhagor o drydan ac felly mae angen rhwydwaith newydd i gludo’r pŵer o’r man lle caiff ei gynhyrchu i gartrefi a busnesau ar draws y wlad lle caiff ei ddefnyddio.
Cewch ragor o fanylion ar wefan prosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru.
Yr ymgynghoriad cyhoeddus
Yn ddiweddar, cwblhawyd cyfnod cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus i glywed barn pobl am y prosiect ac i ofyn am ymateb i’r coridorau llwybrau posibl ar gyfer y cysylltiad newydd ac ardaoloedd posibl i leoli is-orsaf newydd. Diolch i bawb am eu hymateb.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Y cam pwysig nesaf fydd dewis coridor y llwybr ac ardal leoli’r isorsaf. Rydym yn gobeithio cyhoeddi hyn yn y gaeaf 2011/12 ar ôl i ni ystyried yr holl ymateb a gawsom. Bryd hynny, byddwn yn cyhoeddi Adroddiad ar yr Ymateb a Datganiad Ffafriaeth, yn esbonio’r penderfyniadau a wnaed.
Rhagor o wybodaeth
Cyflwyno’ch ymateb i ni
Er bod cyfnod cyntaf yr ymgynghoriad wedi dod i ben, mae National Grid yn dal i groesawu’ch sylwadau a’ch ymateb.
Gallwch gysylltu â ni a nodi’ch barn fel rhan o’r broses ymgynghori barhaus mewn nifer o wahanol ffyrdd: